CEC 44  
_______________________________________________________________________________________

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education

Committee Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical | Services for care experienced children: exploring radical reform

Ymateb gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Evidence from Welsh Local Government Association (WLGA) 
________________________________________________________________________________________


 

 

Amdanom Ni

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt. 

 

Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol a arweinir yn wleidyddol, gydag arweinwyr pob awdurdod lleol yn penderfynu ar bolisi drwy’r Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor CLlLC ehangach. Mae CLlLC hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr a Dirprwy Lefarwyr i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.

 

Mae CLlLC yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr proffesiynol a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol ac mae’n cael cyngor ganddynt yn aml. Fodd bynnag, CLlLC yw’r corff sy’n cynrychioli llywodraeth leol ac yn darparu llais gwleidyddol cyfun i lywodraeth leol yng Nghymru. 

 

 

Cefndir a Chyd-destun

 

Wrth geisio ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor sy’n archwilio diwygio radical o ran gwasanaethau presennol i blant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal, i ddechrau mae’n bwysig ystyried y cyd-destun mae gwasanaethau i blant wedi bod yn gweithio ynddo ers peth amser.

 

Mae galw sylweddol o hyd am ofal cymdeithasol i blant ac mae cymhlethdod anghenion yn cynyddu gan ymateb i’r heriau amlochrog mae plant yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Mae hyn yn mynd law yn llaw â phrinder yn y gweithlu a materion parhaus o ran digonolrwydd lleoliadau. Rydym yn dal i weld effaith ehangach pandemig Covid a’r newidiadau a ddaeth yn ei sgil. Mae’r cynnydd cysylltiedig o ran tlodi oherwydd diweithdra neu gyllid teuluoedd sydd wedi’i ymestyn i’r eithaf, cam-drin domestig, unigedd, gorbryder uwch, camddefnyddio sylweddau, teuluoedd yn chwalu a digartrefedd, sydd i gyd wedi’u cysylltu ag effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw parhaus, yn rhoi llawer o blant a theuluoedd dan bwysau a straen aruthrol. Bydd y materion hyn yn parhau i gael effaith ar iechyd meddwl a lles pobl, gan arwain at ragor o bobl angen gwasanaethau ar draws y sbectrwm angen.

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod nifer y plant yn y system ofal yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae’r rhesymau pam mae plant yn dod yn blant sy’n derbyn gofal a’u hanghenion tra maen nhw yn y system ofal yn gymhleth ac amlffactoraidd. Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld cynnydd mewn gwariant ar Wasanaethau Plant yn ystod cyfnod pan mae pŵer gwario Cynghorau wedi lleihau. Mae hyn yn dangos yr ymrwymiad sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol i fodloni gofynion sy’n cael eu gosod ar wasanaethau. Fodd bynnag, mae hyn yn anghynaliadwy, gyda'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn disgwyl gorwariant sylweddol ar gyllidebau eu gwasanaethau plant.

 

Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau ar gyfer gofalu am blant diamddiffyn a’u diogelu, nawr mewn sawl ardal, yn cael eu gwthio i'r eithaf. Gyda’r pwysau ariannol eithriadol sydd ar y Cynghorau ar hyn o bryd, wedi'i gyplu gyda chynnydd yn y gofyn am gefnogaeth diogelu plant, golyga hyn bod y swm cyfyngedig o arian sydd gan Gynghorau yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymorth brys i blant a theuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng, gan adael prin ddim i fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar. O ganlyniad mae cylch o angen di-dor a chynyddol ar gyfer gwasanaethau yn anfon heriau cymhleth i’r plant mwyaf diamddiffyn.

 

Felly rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor, gan gynnig cyfle i archwilio’r materion sy’n cael eu profi a’r camau gweithredu gofynnol i roi sylfaen gynaliadwy i wasanaethau plant. Byddwn yn sicrhau bod gennym system ar waith i allu darparu’r gofal, cefnogaeth a diogelwch sydd eu hangen ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd pan fo’u hangen arnynt, wrth sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethu.

 

Yn y gorffennol, mae CLlLC wedi amlygu nifer o feysydd allweddol lle mae pwysau sylweddol yn cael ei brofi o ran gwasanaethau plant yng Nghymru, gan gynnwys:

 

1) Galw allanol a chymhlethdodau – Mae effaith barhaus diwygio'r gyfundrefn les a degawd o galedi wedi cynyddu’r pwysau ar deuluoedd, sydd wedi’u dwysáu gan bandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Mae mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd ac adrodd am gam-drin posib, effaith tlodi ac amddifadedd ar deuluoedd a diffyg nawdd i helpu teuluoedd yn gynnar cyn i broblemau ymddangos, i gyd yn cyfrannu at hyn. Mae mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a chamfanteisio troseddol a chynnydd yn y nifer o fentrau wedi’u hanelu at ddulliau adnabod cynnar ac ymyrraeth megis gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.

 

2) Lleoliadau – Mae cymhlethdod cynyddol achosion a’r nifer gynyddol o blant sy’n dod i’r system ofal yn effeithio’n negyddol ar argaeledd lleoliadau priodol a chost lleoliadau. Mae gan boblogaeth o ofalwyr maeth sy’n heneiddio a’r costau cynyddol o ddarparu gofal preswyl effaith sylweddol ar y sector.

 

Mae’r heriau sylweddol wrth ddarparu’r lleoliadau cywir i blant mewn gofal wedi dod yn fwy amlwg fyth o ganlyniad i’r pandemig. Mae’r angen hwn hyd yn oed yn fwy o frys i’r rhai ag anghenion cymhleth.  Mae’n glir nad yw model presennol y farchnad yn darparu digonolrwydd. Mae mwy y gellir ei wneud i ailgydbwyso ac ailffurfio’r farchnad lleoliadau gofal, fel bod economi gymysg o ddarpariaeth gwasanaeth a lleoliadau, sy’n diwallu anghenion real a phresennol plant mewn gofal heddiw.

 

3) Gwasanaethau Iechyd Meddwl – Mae angen mwy fyth o ganolbwynt ar yr uchelgais strategol a’r gefnogaeth a roddir i iechyd meddwl plant, ar hyn o bryd mae gormod o enghreifftiau o hyd o blant ag anghenion cymhleth nad ydynt yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau integredig arbenigol, llety, triniaeth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Nid yw darpariaeth gofal iechyd meddwl yn gweithio i’r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu’n rhy gaeth a llawer o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth yn methu allan ar y gofal sydd ei angen arnynt oherwydd nad ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc wedi bod yn fater hirsefydlog, lle mae awdurdodau lleol yn parhau i wynebu her wrth gaffael gwasanaethau iechyd i gynnig blaenoriaeth ddigonol i anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, er gwaethaf gwaith hynod o ymrwymedig gan unigolion ym maes iechyd. Mae hyn yn arwain at roi baich cyfrifoldeb ar wasanaethau cymdeithasol i blant yr awdurdodau lleol. Mae ymateb integredig lle mae pob partner ac asiantaeth yn cydnabod a chwarae eu rhan yn hanfodol.

 

4) Deddfwriaeth a gwaith gyda’r Llysoedd - Mae cynnydd sylweddol yn y nifer o geisiadau am ofal wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, gyda thwf yn y nifer o blant sy’n destun achosion gofal. Mae disgwyliadau cynyddol o ddyfarniadau cyfreithiol yn ychwanegu at amgylchedd sy’n heriol eisoes.

 

5) Gweithlu - Mae gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd yn cael ei herio’n sylweddol gan drosiant staff uchel a chyfraddau swyddi gwag, gan arwain at ormod o ddibyniaeth ar staff asiantaeth mewn rhai achosion, gyda galw am weithwyr cymdeithasol parhaol a phrofiadol yn fwy na’r cyflenwad.

 

Mae Cynghorau’n parhau i wneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd iawn ac ymateb i’r heriau ariannol cynyddol ym maes gofal cymdeithasol i blant, gan gynnwys lleihau costau lle bo modd a chanfod ffyrdd newydd o weithio. Fodd bynnag, mae’n dod at bwynt lle mai ychydig iawn o arbedion sy’n weddill i’w canfod heb gael effaith real a pharhaus ar wasanaethau hanfodol y mae nifer o blant a theuluoedd ar draws y wlad yn dibynnu’n fawr arnynt.

 

Yn y gorffennol, mae CLlLC wedi rhannu nifer o ofynion allweddol gan Lywodraeth Cymru y mae angen eu hystyried a rhoi sylw iddynt os ydym am ddiwygio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol go iawn, i wasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

1.    Mae Llywodraeth Cymru angen bod yn gadarn, dewr ac uchelgeisiol ar gyfer rôl gofal cymdeithasol yn y dyfodol, gan fuddsoddi’n sylweddol i drawsnewid modelau cyflenwi yn y dyfodol sy’n rhoi dewis a gwasanaethau o safon dda, sydd ar gael pan fo’u hangen nhw, gyda dinasyddion yn ganolog i system iechyd a gofal cymdeithasol ddiwygiedig, o werth uchel, cynaliadwy, a pharhaus. 

 

2.    Mae’n hanfodol mynd i’r afael â materion gweithlu; mae angen strategaethau a chynlluniau tymor byr, tymor canolig a hirdymor. Mae hyn yn fwy na dim ond cynyddu cyflogau i lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol, mae angen mynd y tu hwnt i hyn – mae cydraddoldeb o ran parch (gan gynnwys cydraddoldeb o ran cyflog, telerau ac amodau) gyda gweithwyr GIG, cyfleoedd datblygu gyrfa a sut i ddefnyddio staff presennol yn y ffordd orau yn faterion allweddol, yn ogystal â dull strategol o ddatblygu’r gweithlu sydd ei angen i’r dyfodol, o ran capasiti a sgiliau. Mae angen i ni fanteisio ar pob cyfle i dyfu, datblygu a gwella sgiliau’r gweithlu. 

 

3.    Mae cyllid cynaliadwy hirdymor yn gwbl hanfodol ar gyfer y dyfodol. Sylweddolir bod gwasanaethau cymdeithasol wedi’u diogelu i raddau yn ystod y cyfnod o galedi, ac mae setliadau diweddar ar gyfer llywodraeth leol wedi’u croesawu, fodd bynnag, nid yw lefel y buddsoddiad wedi cadw i fyny â’r galw cynyddol am wasanaethau, na’r cymhlethdod cynyddol o ofal sydd ei angen (gan gynnwys effaith niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol diweddar Covid-19). Mae angen symud oddi wrth gyllid tymor byr neu grantiau sy’n tanseilio cynaliadwyedd gwasanaethau craidd hefyd, yn enwedig gwasanaethau ymyrraeth gynnar. Er mwyn gallu cyflawni’r math a lefel o drawsnewid sydd ei angen, mae angen sicrwydd o ran lefelau buddsoddi cynyddol i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer gwasanaethau a’u diwygio ar sail cyllid cynaliadwy. 

 

4.    Mae angen rhagor o ganolbwynt a buddsoddiad ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar. Mae’n rhaid i ni symud at ymyriadau a dulliau mwy sylfaenol i gefnogi teuluoedd ar gamau cynharach, gan atal dwysáu materion a’r angen am ymatebion i argyfwng. Bydd dull o’r fath yn arwain at well canlyniadau a phrofiadau i deuluoedd a llai o bwysau ar wasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol (a bydd yn debygol o arwain at lai o blant yn dod i mewn i’r system ofal hefyd). 

 

5.    Cydraddoldeb a gwell integreiddio gydag iechyd – mae gwerthfawrogi gwasanaethau gofal cymdeithasol eu hunain yn bwysig, ond mae’n rhaid trin gofal cymdeithasol fel partner cyfartal i, a gydag, iechyd, lle mae cyrff iechyd yn deall, cydnabod, cyflawni ac anrhydeddu eu cyfrifoldebau’n llawn wrth iddynt ryngweithio â gofal cymdeithasol, gyda llai o ddadlau am bwy sy’n talu am ofal. Mae hyn yn gofyn am gydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau am gyllidebau. Mae cefnogaeth ar gyfer rhagor o waith integredig gydag iechyd, yn enwedig gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, ond mae’n rhaid i hyn fod ar delerau cyfartal.

 

 

Mae’r heriau sy’n wynebu ein system gofal cymdeithasol wedi’u cofnodi’n dda yn ddiweddar ac er bod llawer o’r canolbwynt wedi bod ar wasanaethau oedolion, mae heriau: cyllid annigonol; gweithlu nad yw’n cael ei werthfawrogi; sector darparwyr sy’n wynebu pwysau cynyddol; ac agenda ar gyfer integreiddio lle mae anghenion y GIG yn tueddu i fod yn flaenllaw, yr un mor berthnasol i wasanaethau plant.

 

Roedd y materion hyn yn amlwg cyn y pandemig ac maen nhw wedi cynyddu ers hynny. Felly rydym yn cefnogi’r angen am newid trawsffurfiol, er ein bod yn cydnabod bod hyn yn gallu golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Felly mae angen bod yn glir o ran yr hyn rydym yn ei olygu wrth drawsnewid a diwygio a’r hyn rydym ni’n ceisio ei gyflawni mewn gwirionedd. Mewn un ystyr, ac o ystyried o le rydym ni’n dechrau, byddai model gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio fwy o lawer ar yr unigolyn a’r plentyn, sy’n ataliol, wedi’i gyd-gynhyrchu a’i ariannu’n ddigonol a chynaliadwy, yn teimlo’n hanfodol wahanol i’r system bresennol.

 

Isod, rydym yn amlygu beth rydym ni’n credu yw’r blaenoriaethau trosfwaol i wasanaethau plant, gan ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth allweddol: gweithlu; buddsoddiad a chyllid cynaliadwy; a rhagor o ganolbwynt ar atal ac ymyrraeth gynnar. Gyda’i gilydd, gall rhain ein helpu i’n cefnogi ni i lunio system lle mae gwasanaethau wedi’u dylunio’n fwy effeithiol a lle darperir adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau help ataliol, cyffredinol a chynnar sydd eu hangen ar blant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn cael y gefnogaeth ymarferol, emosiynol, addysgol ac iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt, pan fo’i hangen arnynt.

 

 

1.   Gweithlu

 

Cryfder mwyaf y system gofal cymdeithasol i blant yw ei gweithlu. Mae cynnal gweithlu sefydlog o ansawdd uchel yn ganolog i ddarparu cefnogaeth effeithiol i blant a theuluoedd, ond mae recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn dal i fod yn her fawr i Gynghorau ar draws y wlad.

 

Mae Cynghorau’n amlygu heriau’n gyson o ran sicrhau gweithlu digonol a sefydlog gyda phwysau presennol yn cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, sy’n gweld mwy o weithwyr cymdeithasol yn gadael i ymuno ag asiantaethau lle gallant gael cyfraddau tâl uwch (a mwy o hyblygrwydd o ran pa bryd maen nhw’n gweithio). Mae Cynghorau’n gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ymateb i’r sefyllfa hon a nodi beth arall sydd angen ei wneud i wella’r broses o recriwtio a chadw pawb yn y gweithlu plant.

 

Rydym yn gwybod hefyd nad yw gweithwyr cymdeithasol plant a’r gweithlu ehangach yn cael y gydnabyddiaeth gyhoeddus mae eu cydweithwyr ym maes iechyd ac addysg yn aml yn ei chael ac yn ei haeddu. Nid yw’r ffaith mai canfyddiad y cyhoedd o’r system amddiffyn plant yw gwasanaeth sy’n methu’r plant y mae i fod i’w diogelu, yn helpu â recriwtio a chadw staff. Felly, mae angen ystyried sut y gallwn ni i gyd gydweithio i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r rolau hanfodol hyn – mae’n hanfodol ein bod yn osgoi creu amgylchedd gweithio mor negyddol fel bod gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr ac uwch arweinwyr da yn gadael y proffesiwn oherwydd morâl isel a siom. Mae’n rhaid i lywodraeth leol a chenedlaethol wneud mwy i arddangos gwaith rhagorol timau gwaith cymdeithasol ar draws y wlad, a chefnogi Cynghorau i recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol o ansawdd uchel.

 

Yn ogystal, mae llwythi achosion yn dal i beri pryder mawr, ac mae’r cyfuniad o lai o gyllid a mwy o alw rydym yn ei amlygu fel rhan o’r cyflwyniad hwn yn golygu ei bod yn anoddach mynd i’r afael â hyn. Yn wir, byddai gweithredu cydlynol ar lawer o’r materion hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gweithwyr cymdeithasol ar draws y wlad, o ymrwymiad ar draws y Cyngor i wasanaethau plant sy’n ystyried materion fel cefnogaeth swyddfa gefn ac AD o ansawdd da, i well dealltwriaeth o sut i helpu plant a theuluoedd yn y ffordd fwyaf effeithiol, i fwy o adnoddau i’w buddsoddi yn y rhaglenni a’r ymyriadau hynny.

 

Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo’n llawn i ymateb i heriau’r gweithlu ac mae’n credu mai hyn yw’r flaenoriaeth wrth allu darparu’r gwasanaethau plant a theuluoedd rydym ni i gyd yn dyheu iddynt gael eu darparu. Fel rhan o hyn, rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda’r llywodraeth i ystyried pob cam gweithredu mae modd i ni eu cymryd, gan gydnabod pa mor gyflym a brys y mae angen i ni ymateb.

 

 

2.   Buddsoddiad a Chyllid Cynaliadwy

 

Wrth arwain at gyllideb ddrafft eleni, cynhaliodd llywodraeth leol asesiad o bwysau gwario’r Cyngor, ac mae llawer ohonynt wedi dwysáu’n sylweddol dros y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys diweddaru ein hamcangyfrifon o’r pwysau yn 2023-24 a 2024- 25 ar sail cynlluniau ariannol tymor canolig awdurdodau lleol. Yn gynyddol, mae’r pwysau sy’n adeiladu yn y system yn dechrau edrych yn drychinebus o bosibl, gyda’r asesiad yn dangos bod Cynghorau eisoes yn wynebu bwlch posibl o £802 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd pwysau o ran costau (a phrisiau ynni chwyddiannol a chynyddol) a fydd yn cael effaith anochel ar allu a chapasiti Cynghorau i ddarparu gwasanaethau.

 

Dim ond ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, nododd awdurdodau lleol eu bod yn wynebu pwysau ariannol cyffredinol o £95.2 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, gyda gwasanaethau oedolion a phlant yn wynebu pwysau chwyddiannol a phwysau o ran galw a chyfanswm phwysau cronnol a amcangyfrifir o £407.8 miliwn ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Er gwaethaf ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, dylid nodi mai’r pwysau ariannol hyn yw i ‘aros yn llonydd’, bydd angen buddsoddiad sylweddol os ydym am roi sylfaen gynaliadwy i ofal cymdeithasol i’r dyfodol.

 

Mae pwysau costau amcangyfrifedig gwasanaethau plant yn adlewyrchu gofal pwrpasol cost uchel. Mae galw mawr am hyn, ond mae’r cyflenwad o wasanaethau priodol yn isel. O ganlyniad, mae un Cyngor wedi gweld cynnydd o 25% yng nghost gyfartalog lleoliadau yn y 12 mis diwethaf. Mae costau uchel lleoliadau gofal yn adlewyrchu diffyg argaeledd, sy’n golygu bod comisiynu lleoliadau’n heriol, ac mae nifer o’r lleoliadau ar gyfer plant ag anghenion cymhleth drwy orchymyn llys a thu hwnt i reolaeth Cynghorau. Mae un Cyngor yn dweud bod nifer enwau plant nad ydynt wedi’u geni eto sy’n cael eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac sy’n mynd i mewn i’r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) wedi dyblu. Mae hyn yn golygu bod angen rhagor o adnoddau ar gyfer lleoliadau mamau a babanod, sy’n ddrud ac nid oes digon ar gael.

 

Mae Cynghorau’n parhau i amlygu heriau o ran dod o hyd i leoliadau priodol i blant a phobl ifanc. Yn benodol, cyfeiriwyd at ddiffyg darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion cymhleth mewn lleoliadau maethu a phreswyl, a oedd yn golygu costau uwch. Dywedodd Cynghorau hefyd fod plant a phobl ifanc sy’n dangos ymddygiad mwy cymhleth a heriol yn arwain at fwy o alw am leoliadau gofal preswyl.

 

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal’. Rydym yn cydnabod bod hon yn brif ymrwymiad i Weinidogion ac un sydd angen ystod o bartneriaid ac arbenigedd i’w chyflawni. O’u rhan nhw, mae awdurdodau lleol yn cefnogi’r bwriad y tu ôl i’r ymrwymiad. Fodd bynnag, mae arnom angen sicrhau bod y camau a chynlluniau sy’n cael eu rhoi ar waith i ymdrin â’r flaenoriaeth hon yn sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, heb ansefydlogi lleoliadau presennol na’r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu cyflenwad lleol a rhanbarthol o leoliadau priodol. Mae arwyddion mewn rhai ardaloedd eisoes bod datblygu’r ymrwymiad hwn yn cael effaith sy’n ansefydlogi argaeledd darpariaeth breswyl, ac mae hyn yn peri pryder i awdurdodau lleol o ystyried yr heriau a’r costau sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn.

 

Mae angen sicrhau bod lleoliadau cywir ar gael i blant yn y lleoedd cywir, fel bod y rhai na allant aros gyda’u rhieni yn tyfu i fyny mewn cartref diogel, sefydlog a chariadus. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol ac mae’n hanfodol bod hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi dechrau, fel trwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru, gan sicrhau bod y mentrau hyn yn cael adnoddau a chefnogaeth ddigonol i gyflawni eu huchelgeisiau.

 

Mae tystiolaeth dda wedi’i dangos o’r heriau trosfwaol i gyllid llywodraeth leol, gyda phŵer gwario Cynghorau’n lleihau’n sylweddol dros y degawd diwethaf a mwy. Er bod Cynghorau wedi brwydro i ddiogelu a chynyddu gwariant ar ofal cymdeithasol i blant er mwyn cadw plant yn ddiogel, mae angen cynyddol wedi gorfodi symud o ran gwariant o gymorth cynnar ac ataliol i wario ar wasanaethau diogelu plant brys. Mae Cynghorau’n amlygu eu rhwystredigaeth yn gyson wrth orfod torri gwasanaethau cadarnhaol er mwyn mantoli cyllidebau bob blwyddyn.

 

Mae angen ystyried goblygiadau ehangach gostyngiadau o ran cyllid y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol dros y degawd diwethaf hefyd ar gyfer gwasanaethau plant. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

·         Llwythi achosion uchel a gostyngiad o ran nifer staff ar draws partneriaid diogelu statudol;

·         effaith diwygio’r gyfundrefn les ar deuluoedd, rhieni sengl a phobl ag anableddau;

·         heriau sy’n wynebu gwasanaethau eraill y Cyngor sy’n cefnogi teuluoedd, gan gynnwys tai, hamdden a rhwydi diogelwch ariannol. 

 

Mae Cynghorau wedi sôn am heriau sy’n gysylltiedig â chyllid grant hefyd a dyraniadau cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn – nid yw cyllid tymor byr yn cefnogi cynllunio hirdymor. Mae atebolrwydd a rhwymedigaethau adrodd ar wahân ac unigol ynghlwm wrth grantiau penodol tymor byr, ac ychydig o ddisgresiwn sydd gan awdurdodau o ran sut caiff grantiau eu defnyddio a thros pa gyfnod gellir eu gwario. Mae posib iddynt newid hefyd, sy’n golygu bod cynllunio hirdymor yn gallu bod yn anodd. Rydym yn dal i gredu bod rhaid darparu cyllid mewn ffordd sy’n rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol i fodloni galw ac anghenion lleol yn y ffordd orau, sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ac sy’n helpu i sicrhau bod plant sy'n gadael y system plant sy’n derbyn gofal yn gwneud hynny mewn modd sydd wedi’i gynllunio a’i gefnogi’n briodol fel eu bod yn cyflawni eu canlyniadau hefyd.

 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan Gynghorau gyllid priodol i fodloni’r galw a’r pwysau cynyddol yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor hir. Mae angen cyllid cynaliadwy i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, cyffredinol a chymorth cynnar er mwyn i blant, pobl ifanc a theuluoedd gael y gefnogaeth ymarferol, emosiynol, addysgol ac iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt, cyn gynted ag y bydd ei hangen arnynt. Y realiti yw na ellir diwygio ein system bresennol mewn unrhyw ffordd heb fuddsoddiad trawsnewidiol go iawn. Mae gwariant Cynghorau ar ofal cymdeithasol i blant wedi cynyddu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn dim ond er mwyn bodloni galw a chymhlethdod cynyddol, felly mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud y buddsoddiad gofynnol yn y system ar frys.

 

 

3.   Atal ac Ymyrraeth Gynnar

 

Mae’n rhaid i unrhyw ddull sy’n ceisio diwygio’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael ei fframio o amgylch dull sy’n seiliedig ar y teulu, lle mae gwasanaethau a systemau effeithiol ar waith er mwyn ymyrryd yn gynnar ac effeithiol ac atal anghenion rhag dwysáu. Rydym wedi eirioli ers tro dros sicrhau bod modd i ni roi’r gefnogaeth gywir i blant a theuluoedd ar yr amser cywir, gan gynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol a chymorth cynnar. Mae angen i hyn ystyried sut mae llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, yn ogystal â’n partneriaid ehangach, yn darparu arweinyddiaeth dda ac effeithiol, a chyllid, ar gyfer yr agenda atal ac ymyrraeth gynnar, gan alluogi dull cyfannol.

 

Fel rhan o hyn, mae’n hanfodol bod rôl partneriaid ehangach wrth gefnogi plant a theuluoedd yn cael mwy o lawer o ystyriaeth, wrth ystyried unrhyw ddiwygio. Mae canolbwynt trafodaethau am ddiwygio wedi bod ar wasanaethau plant, ond mae’n rhaid i bob partner ar lefel leol a chenedlaethol gadw canolbwynt cryf ar anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd, lle rydym yn gwybod bod trefniadau diogelu plant effeithiol yn dibynnu ar gydweithio ar draws nifer o wahanol asiantaethau. Mae gwella bywydau plant a phobl ifanc a darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion plant yn waith i wasanaethau plant, a hefyd yn gyfrifoldeb i’r Cyngor cyfan, a'r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ehangach. Mae llawer o’r materion sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau plant a theuluoedd, fel sicrhau bod tai diogel, fforddiadwy a chyfforddus ar gael, addysg dda, iechyd da a rhagolygon cyflogaeth lleol, y tu hwnt i gylch gwaith yr adran gwasanaethau plant, felly mae’n hanfodol bod y Cyngor cyfan yn ymgysylltu â’r agenda hon.

 

Mae’n rhaid i’r teimlad hwn o uchelgais a rennir ar gyfer plant gael ei ailadrodd ar draws pob partner, gyda phob asiantaeth yn cydweithio er lles plant a theuluoedd. Er enghraifft, mae nifer o ryngddibyniaethau ar draws gwasanaethau iechyd a phlant, gan gynnwys: diwallu anghenion emosiynol ac iechyd meddwl cynyddol plant, pobl ifanc a theuluoedd, gyda phryderon dros fynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn benodol; a sicrhau llety priodol i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai â’r anghenion mwyaf cymhleth. Mae pryderon hefyd nad yw plant diamddiffyn yn cael eu gweld gan wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd oherwydd prinder gweithlu mewn meysydd fel ymwelwyr iechyd, sy’n golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli i ddarparu ymyrraeth neu gymorth cynnar. Mae cydweithio gyda’r heddlu ac addysg hefyd yn hanfodol o ran diogelu amlasiantaeth, felly mae’n hanfodol bod pob partner yn cydnabod a chwarae eu rôl wrth ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc - mae angen i’r perthnasoedd hyn ar draws asiantaethau sy’n bartneriaid gael eu hadlewyrchu mewn unrhyw raglen ddiwygio radical.

 

Yn debyg, dylid sicrhau bod llinyn euraidd yn rhedeg trwy fusnes y llywodraeth, gyda phob adran yn ystyried sut bydd eu gweithgareddau’n effeithio ar blant a theuluoedd. Bydd ymrwymiad dilys i wrando ar ddymuniadau plant a phobl ifanc a gweithredu arnynt yn ganolog i hyn hefyd, a bydd rhagor o ddatganoli o lefel genedlaethol i lefel leol yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i Gynghorau i ddod â gwasanaethau at ei gilydd a gwireddu’r weledigaeth hon.

 

Gwnaeth dadansoddiad diweddar o bwysau llywodraeth leol y cyfeiriwyd atynt yn gynharach nodi bod Cynghorau’n cael lefelau uwch o atgyfeiriadau am wasanaethau help / ymyrraeth cynnar, gyda COVID-19 yn cael effaith ar sefydlogrwydd, datblygiad a diogelwch plant a theuluoedd. Mae un awdurdod lleol wedi sôn am gynnydd o 300% o ran cysylltiadau wrth ddrws ffrynt gwasanaethau plant o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig, ac mae tua 200 o deuluoedd ar restr aros bresennol awdurdod lleol arall am ddyrannu i help cynnar. Ynghyd â chynnydd yn nifer yr achosion, bu cynnydd yng nghymhlethdod yr angen sy’n gofyn am ymyriadau / gweithwyr arbenigol.

 

Deellir yn dda bod modd i help cynnar chwarae rôl bwysig wrth nodi materion yn gynnar ac atal problemau rhag dwysáu. Ond mae bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau angen uchel fel pe bai’n gorfodi Cynghorau i symud cyllid oddi wrth wasanaethau help cynnar. Mae angen rhagor o gefnogaeth ar ardaloedd lleol i sicrhau bod yr help cynnar maen nhw’n ei ddarparu mor effeithiol ag sy’n bosibl. Mae’n hanfodol bod comisiynu’n cyd-fynd yn dda ag angen lleol fel bod modd i blant a theuluoedd gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fo’i hangen arnynt, er mwyn atal achosion pellach o gynnydd anghynaliadwy yn nifer y plant a theuluoedd sy’n cyrraedd pwynt argyfwng.

 

Rydym yn dal i gredu’n gryf bod yn rhaid i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol fod yn flaenoriaeth graidd i Lywodraeth Cymru, yn unol ag athroniaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac o ran polisi cyllidebol cadarn. Caiff nifer o wasanaethau ataliol mewn llywodraeth leol, fel canolfannau hamdden, parciau, gwaith ieuenctid a chyfleusterau cymunedol eu darparu ar ddisgresiwn Cynghorau lleol. Yn anffodus, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y gwasanaethau hyn sydd wedi wynebu’r toriadau gwaethaf i gyllidebau awdurdodau lleol gan fod gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u diogelu - mae’n hanfodol ein bod yn atal dirywiad gwasanaethau ataliol lleol a’n bod yn canfod ffordd o wneud buddsoddiadau sylweddol mewn gwasanaethau ataliol newydd a rhai sy’n bodoli eisoes. Mae buddsoddiad cryfach mewn help cynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fo’i hangen arnynt.

 

Mae Cynghorau wedi amlygu’r heriau o ran darparu gwasanaethau help cyffredinol a chynnar ers tro yng nghyd-destun angen cynyddol a llai o gyllid ac maent wedi codi pryderon sylweddol am oblygiadau peidio gallu cefnogi plant a theuluoedd cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng. Mae angen rhagor o ganolbwynt ar alluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gael mynediad i’r help sydd ei angen arnynt, pan fo’i angen arnynt, ac rydym yn annog y Llywodraeth i weithio gyda Chynghorau a’r sector plant ehangach i wireddu’r weledigaeth hon. Byddai dull o’r fath yn golygu canlyniadau a phrofiadau gwell i deuluoedd a llai o bwysau ar wasanaethau cymdeithasol yn ei gyfanrwydd (a hefyd yn debygol o arwain at lai o blant yn dod i ofal). Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau ataliol newydd a rhai sy’n bodoli eisoes; roedd hyn hefyd yn neges allweddol yn yr adroddiad diweddar gan y grŵp arbenigol, ‘Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru’.

 

Budd buddsoddi mewn help i deuluoedd yn gwella canlyniadau plant yn y pen draw a lleihau gwariant nes ymlaen, trwy gadw mwy o blant yn ddiogel gyda’u teuluoedd, hyrwyddo ailuniad, dod â chylchoedd gofal ailadroddus ac sy’n pontio’r cenedlaethau i ben, lleihau achosion o niwed sylweddol a gwrthweithio effaith amddifadedd.

 

 

Meysydd pwysig eraill

 

Yn ogystal â’r blaenoriaethau trosfwaol hyn, mae’n bwysig cydnabod y bydd angen camau eraill i gefnogi proses ddiwygio ein system bresennol. Isod mae rhai o’r camau pellach hyn wedi’u hamlygu, er nad yw’r cyflwyniad hwn yn ceisio darparu rhestr gynhwysfawr o’r camau a allai gael eu cymryd ar draws y system.

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n ymrwymo i “gryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’”. Mae Cynghorau’n cefnogi’r egwyddor bod angen rhagor o berchnogaeth o gyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws y sector cyhoeddus cyfan, y tu hwnt i Gynghorau’n unig, er mwyn darparu canlyniadau gwell i blant sydd wedi bod mewn gofal. Mae hyn yn golygu bod angen arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel (gwleidyddol a phroffesiynol) ar draws pob sefydliad, i alluogi darparu ymateb gwell gan sector cyhoeddus Cymru i anghenion plant sydd wedi bod mewn gofal. Mae’r partneriaid allweddol sy’n rhan o hyn yn cynnwys iechyd, addysg, tai a’r heddlu, ond mae Llywodraeth Cymru (swyddogion a Gweinidogion) ac Aelodau’r Senedd yr un mor bwysig. Er enghraifft, bydd y ddau’n chwarae rhan hanfodol o ran sut gallwn ni gefnogi gweithwyr cymdeithasol plant – yma mae arweinyddiaeth yn allweddol os ydym ni am gadw a denu gweithlu gwaith cymdeithasol plant i ddarparu’r diwygio radical a gaiff ei gynnig.

 

Mae angen i ni gydnabod effaith trefn arolygu a phrosesau’r llys hefyd. Gall rhain greu pwysau cyson a disgwyliadau ac effaith ar arfer pan fo staff dan lefel uchel o graffu. Rydym yn gwybod bod yr arolygiaeth yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Chynghorau i wella cefnogaeth i blant ac mae’n hanfodol bod rheoleiddwyr yn ymgysylltu’n llawn ag unrhyw agenda diwygio.

 

Mae’n hanfodol bod gofal cymdeithasol plant yn dal i fod yn agored i feirniadaeth a hunan-fyfyrio cyson ac mae angen i lywodraeth leol a chenedlaethol ddatblygu dealltwriaeth well o ‘beth syn gweithio’ a ‘beth sy’n edrych yn dda’ ar gyfer gwasanaethau plant. Mae’n hanfodol nad ydym ni’n cael ein gadael mewn sefyllfa lle mae cryfder ein system bresennol yn cael ei asesu bron yn llwyr gan ganlyniadau arolygiadau neu trwy ganolbwyntio ar ddangosyddion penodol, ond bod Cynghorau’n ceisio darparu gwasanaethau mae plant a phobl ifanc yn ystyried sy’n eithriadol, yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflawni graddau’r rheoleiddwyr yn unig.

 

 

Casgliad

 

Rydym yn gwybod bod canlyniadau i blant sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol i blant yn aml yn waeth na chanlyniadau eu cyfoedion, ac mae’n rhaid i ni barhau i geisio sicrhau gwelliant. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod mai Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf diogel yn y byd y dyfu i fyny, diolch i waith ymroddedig unigolion ym maes gofal cymdeithasol plant, iechyd, yr heddlu a sefydliadau partner. Mae llawer o blant mewn gofal hefyd yn cael profiadau da iawn, gyda phlant mewn gofal maeth yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael gofal da, a chanlyniadau addysgol sy’n gwella, po hiraf y mae’r plentyn mewn gofal. Wrth weithio i wella canlyniadau ar draws y system, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus ein bod yn cadw ein cryfderau ac adeiladu arnynt hefyd.

 

Rydym ar gyffordd bwysig yn y gwasanaethau plant, ac mae’n gyfle mewn sawl ffordd i weithredu’r newid sydd ei angen i sicrhau bod y system gyfan nid yn unig yn gynaliadwy ond yn bwysicach, ei bod yn gwasanaethu’r rhai mae wedi’i chynllunio ar eu cyfer yn well; plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Er bod llawer o ganolbwynt ar syniad ‘diwygio radical’, yr her sylfaenol sydd o’n blaenau yw nad yw’r sylfeini sydd eu hangen i gefnogi system gref a chynaliadwy ar gael ar hyn o bryd. P’un ai digonolrwydd y gweithlu, cyllid, gwasanaethau ataliol priodol neu leoliadau yw hyn, nid oes digon ar gael yn y system bresennol.

 

Mae’r heriau hyn i gyd yn arwydd o’r angen am newid sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o faterion y mae Cynghorau wedi bod yn eu codi ers sawl blwyddyn, gan gynnwys yr angen am fuddsoddiad sylweddol ar gyfer gwasanaethau ac yn y gweithlu, i ddarparu newid cynaliadwy a gwelliant, heriau o ran digonolrwydd lleoliadau a’r angen i adrannau’r llywodraeth a sefydliadau partner gydweithio’n well. Rydym wedi eirioli dros sicrhau bod modd i ni roi’r gefnogaeth gywir i blant a theuluoedd ar yr amser cywir, gan gynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol a chymorth cynnar, gan edrych ymhell y tu hwnt i rôl gwasanaethau plant yn unig. Felly, rydym yn credu bod rhaid rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r heriau hyn a’u datrys, byddai hyn ynddo’i hun gyfystyr â diwygio radical ar gyfer ein system bresennol.